Pembrokeshire Coast National Park Authority
Development Management Enforcement Officer
Full Time (37 hours per week) - Permanent
Do you have experience of planning matters, including planning enforcement?
Does the idea of delivering an effective planning enforcement service within a
team environment appeal to you?
The Pembrokeshire Coast National Park Authority has an exciting new opportunity
to join our Development Management department as an Enforcement Officer,
helping to create great places for people to live, work, l and enjoy throughout
Pembrokeshire.
As part of this role, you will assist the National Park in carrying out its
statutory purpose, acting as the case officer for a range of planning
enforcement investigations. The role includes providing advice on all planning
enforcement matters, analysing and interpreting information to determine
whether a breach has occurred, and taking appropriate action to remedy a
breach.
As part of this, you will attend public meetings, planning appeal hearings and
inquiries, and site visits. You will be responsible for preparing and issuing
statutory notices, evidence, and written statements relating to enforcement
matters.
We are looking for someone who has:
- Knowledge of planning legislation, policies and investigative/legal
procedures.
- Experience of Planning Enforcement.
- A full UK driving licence.
- Good IT skills with the ability to prepare complex written reports and
excellent oral and written communication.
- Membership of the Royal Town Planning Institute or to be eligible for
membership.
- Extensive experience of planning matters, including planning enforcement in a
committee environment, and experience of planning appeals, hearings, and public
inquiries.
Please refer to the job description (available via download) for more
information.
Salary and Benefits:
A salary of £32,597-£34,434, per annum, minimum 25 days’ holiday rising to 30
days plus public holidays, generous local government pension scheme, great
flexible working arrangements and career development opportunities.
We are committed to equality of opportunity for all staff and applications from
individuals are encouraged regardless of age, disability, sex, gender
reassignment, sexual orientation, pregnancy and maternity, race, religion or
belief and marriage and civil partnerships.
We pledge to improve the diversity of our workforce and therefore guarantee an
interview to disabled candidates who meet the essential job criteria and opt to
apply via our Disability Confident Employers Scheme.
Not the right job opportunity for you? Make sure to check our website for a
wide range of varied and interesting volunteering opportunities across the
park.
Closing Date: 22/02/2026
Pembrokeshire Coast National Park Authority reserves the right to close this
vacancy early.
Use of AI and Accuracy of Information:
- We understand that applicants may choose to use tools such as generative AI
to support the preparation of their application. While the use of such tools is
permitted, it remains the applicant’s full responsibility to ensure that all
information submitted is factually accurate, truthful, and representative of
their own skills, experiences and qualifications.
- Providing information that is false, misleading, or exaggerated, regardless
of whether it was generated by AI or not, may result in disqualification from
the recruitment process or dismissal if discovered after appointment.
- By submitting this application, you confirm that all content provided is
accurate and submitted in good faith.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Swyddog Gorfodi Rheoli Datblygu
Llawn-amser (37 awr yr wythnos) – Parhaol
Oes gennych chi brofiad o faterion cynllunio, gan gynnwys gorfodi rheolau
cynllunio? A yw'r syniad o ddarparu gwasanaeth effeithiol o orfodi rheolau
cynllunio mewn amgylchedd tîm yn apelio atoch?
Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfle newydd cyffrous i
ymuno â'n hadran Rheoli Datblygu fel Swyddog Gorfodi, i helpu i greu lleoedd
gwych i bobl fyw, gweithio, a mwynhau ar hyd a lled Sir Benfro.
Fel rhan o'r swydd hon, byddwch yn cynorthwyo'r Parc Cenedlaethol i gyflawni ei
ddiben statudol, gan fod yn swyddog achos ar amrywiaeth o ymchwiliadau gorfodi
cynllunio. Mae'r swydd yn cynnwys rhoi cyngor ar bob mater gorfodi cynllunio,
dadansoddi a dehongli gwybodaeth i benderfynu a oes achos o dorri rheolau
cynllunio, a chymryd camau priodol i unioni’r achos o dorri rheolau cynllunio.
Fel rhan o hyn byddwch yn mynychu cyfarfodydd cyhoeddus, gwrandawiadau ac
ymchwiliadau apêl cynllunio, ac yn mynychu ymweliadau safle. Byddwch yn
gyfrifol am baratoi a chyhoeddi hysbysiadau statudol, tystiolaeth, a
datganiadau ysgrifenedig sy’n ymwneud â materion gorfodi.
Rydym yn chwilio am berson sydd â:
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau ymchwiliol/cyfreithiol
ar faterion cynllunio.
- Profiad o Orfodi Cynllunio.
- Sgiliau TG da, a'r gallu i baratoi adroddiadau ysgrifenedig amlweddog, a
sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol.
- Aelodaeth o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol neu bod yn gymwys i fod yn
aelod.
- Profiad helaeth o faterion cynllunio gan gynnwys gorfodi cynllunio mewn
amgylchedd pwyllgor, a phrofiad o apeliadau cynllunio, gwrandawiadau, ac
ymchwiliadau cyhoeddus.
- Trwydded yrru lawn y DU.
Cyfeirier at y disgrifiad swydd (sydd ar gael i'w lawrlwytho) am ragor o
wybodaeth.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £32,597- £34,434, y flwyddyn, o leiaf 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30
diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn llywodraeth leol hael,
trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau
gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd,
cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a
phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i
ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud
cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o
gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.
Dyddiad Cau: 22/02/2026
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd
wag hon yn gynnar.
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Deallwn y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer megis deallusrwydd
artiffisial cynhyrchiol i gynorthwyo’r gwaith o baratoi eu cais. Er y caniateir
defnyddio’r cyfryw offer, cyfrifoldeb llwyr yr ymgeisydd yw sicrhau bod yr holl
wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn cynrychioli eu sgiliau,
eu profiadau a'u cymwysterau hwy eu hunain.
- Gall cyflwyno gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu wedi'i gorliwio,
p'un a gafodd y wybodaeth ei chynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial ai
peidio, olygu eich bod yn anghymwys i fod yn rhan o'r broses recriwtio neu
olygu eich diswyddo os caiff hynny ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir
yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.